Rhif y Ddeiseb: P-05-1448 Teitl y ddeiseb: Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr Geiriad y ddeiseb: Dosbarthwyd Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig newydd yn 2023.
Mae’r ddau draeth bellach wedi
methu â chyrraedd y gofynion isaf ar gyfer ansawdd dŵr
ymdrochi, a nhw oedd yr unig safleoedd ymdrochi yng Nghymru i fynd
i’r categori 'gwael', gyda Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn
yn "siomedig".
Rydym wedi bod yn ymgyrchu ers nifer
o flynyddoedd yn erbyn y llygredd carthion sy'n mynd i'r Hen Harbwr
a Bae'r Tŵr Gwylio yn y Barri. |
Mae dau bapur briffio gan Ymchwil y Senedd yn rhoi cefndir cynhwysfawr i’r pwnc hwn:
§ Mae’r canllaw ar ansawdd dŵr yng Nghymru yn amlinellu sut y mae safonau ansawdd dŵr yn cael eu gweithredu, eu monitro a'u cynnal, a phwy sy'n gyfrifol. Mae hefyd yn trafod rhai o'r prif heriau o ran ansawdd dŵr yng Nghymru, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â hwy.
§ Mae’r papur gorlifoedd storm yng Nghymru yn edrych sut y mae gorlifoedd storm cwmniau dŵr yn cael eu rheoli, pa mor dda y deallir nhw, a sut maen nhw'n effeithio ar ansawdd dŵr.
Mae 109 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru, a ddynodwyd o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013. Ceir rhagor o wybodaeth am ddynodi a dosbarthiad dŵr ymdrochi yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, dywed Llywodraeth Cymru mai nod dynodiad yw “diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi”.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am fonitro dyfroedd ymdrochi dynodedig ac am gyfleu’r canlyniadau i’r cyhoedd. Mae’r Adroddiad dŵr ymdrochi Cymru 2023 gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod 107 o’r 109 o ddyfroedd dynodedig yn bodloni’r safonau a osodwyd gan y Rheoliadau, gyda Bae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr yn ddyfroedd ymdrochi nad ydynt yn cydymffurfio. Cafodd y ddau draeth eu dynodi o’r newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023, ac mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro bod dosbarthiadau yn nodweddiadol yn seiliedig ar bedair blynedd o ddata ansawdd dŵr ymdrochi, fodd bynnag data 2023 yn unig a ddefnyddir. Roedd y data yn dangos:
At Watch House Bay four out of twenty samples had elevated bacteria levels, these were all taken during or following periods of wet weather.
…
At Ogmore by Sea six out of twenty samples had elevated levels of bacteria. Rainfall and river level data for the River Ogmore and River Ewenny catchments was assessed against the bathing water sample results. This showed poorer water quality following rainfall and elevated river levels.
Yn sgil y samplu hwn dyfarnwyd bod y dyfroedd ymdrochi wedi'u dosbarthu fel 'gwael'. Mewn ateb i'r ddeiseb hon, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, fod cynnydd sylweddol o ran glaw dros y tymor ymdrochi 2023 wedi arwain at gynnydd mewn achosion o lygredd o amrywiaeth o ffynonellau.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod llawer o ffynonellau tebygol o lygryddion yn y ddau ddalgylch sef, llygredd gwasgaredig o ddraenio trefol, camgysylltiadau, y defnydd o dir gwledig a bywyd gwyllt. Mae'n amlygu y bydd rhagor o waith monitro yn ystod tymhorau dŵr ymdrochi yn y dyfodol yn rhoi gwell dealltwriaeth, ac y bydd yn gwneud fel a ganlyn:
… work with the Vale of Glamorgan Council, Shared Regulatory Services and Dŵr Cymru to investigate the reasons behind these failures and to work towards improving the results in future years.
Mewn ymateb i’r pwysau cynyddol ar amgylcheddau dyfrol Cymru, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd (“y tasglu”) i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd. Mae’r tasglu wedi nodi pum maes ar gyfer newid a gwelliant y mae angen gweithredu ymhellach arnynt.
Ym mis Hydref 2023 cyhoeddodd y Tasglu Adroddiad Tystiolaeth ar Orlifoedd Storm yng Nghymru o dan ei Gynllun Gweithredu Rheoleiddio Amgylcheddol ar gyfer Gorlifoedd. Mae'r adroddiad yn cymharu costau a buddion gwahanol ddewisiadau o ran polisi wrth reoleiddio gorlifoedd stormydd cyfun. Dywedodd Julie James AS y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, y bydd y tasglu “yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn nodi’r camau nesaf”.
Yn ei ateb ynghylch y ddeiseb hon, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn “siomedig” bod Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr wedi derbyn dosbarthiadau ‘gwael’ yn 2023. Mae’n tynnu sylw at waith ymchwiliol sy’n cael ei wneud gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddeall y rhesymau dros y methiannau, a dywed:
… mae'r ymchwiliadau hyn yn gwneud cynnydd da ond maent yn gymhleth ac yn gofyn am gryn amser ac arian i weithio'n llawn,
ac yn aml maent yn dibynnu ar weithgareddau ategol gan sectorau ehangach.
Ar ddechrau 2022, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ymchwiliad i ollyngiadau carthion, a'u heffaith ar ansawdd dŵr. Trafodir canfyddiadau'r Pwyllgor yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd. Ers hynny, mae wedi cynnal gwaith craffu ar berfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru a “gollyngiadau anghyfreithlon o garthion heb eu trin” o nifer o'i weithfeydd trin dŵr gwastraff. Cyhoeddodd ei Adroddiad ar berfformiad Dŵr Cymru ym mis Chwefror 2024.
Cynhaliwyd dadl flaenorol yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth 2022 ar gynnig deddfwriaethol ar gyfer Bil gan Aelod i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd. Derbyniwyd y cynnig.
Ym mis Rhagfyr 2023, cyflwynodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ansawdd dŵr, pan drafodwyd gorlifoedd stormydd ac ansawdd dŵr ymdrochi.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried y deisebau diweddar a ganlyn yn y maes hwn:
§ P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri (deiseb wedi’i chau); ac
§ P-06-1398: Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn yr Afon Teifi (o dan ystyriaeth).
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |